English

Newyddion

Seddi gwag ar Bwyllgor UCU Bangor (08/02/2022)

Mae nifer o seddi gwag yn parhau ar Bwyllgor UCU Bangor. Os hoffech wirfoddoli ar gyfer un o’r seddi hyn, gyrrwch ebost at bucu@bangor.ac.uk

Sedd wag ar Gyngor y Brifysgol (08/02/2022)

Mae’r Brifysgol yn chwilio am aelod o staff academaidd-gysylltedig / gwasanaethau proffesiynnol i eistedd ar Gyngor Prifysgol Bangor. Dyma gorff llywodraethol y Brifysgol, sydd yn gyfrifol am holl benderfyniadau strategol Mae Pwyllgor UCU Bangor yn annog aelodau o staff academaidd-gysylltedig /gwasanaethau proffesiynnol roi eu henw ymlaen ar gyfer y rol bwysig hon. Gofynnir i’r sawl sydd a diddordeb anfon enwebiadau wedi arwyddo gan gynigydd ac eilydd, yn ogystal â datganiad etholiadol at Leah Edge, Cynorthwyydd Llywodraethiant, l.edge@bangor.ac.uk erbyn 5 p.m. Dydd Gwener 18 Chwefror 2022