English

 

Eich Undeb.

UCU (Undeb y Prifysgolion a’r Colegau) yw’r undeb llafur a’r gymdeithas broffesiynol fwyaf ar gyfer academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr, ymchwilwyr a staff academaidd-gysylltiedig sy’n gweithio mewn addysg bellach ac uwch ledled y DU.

Mae UCU Bangor (UCUB) yn cynrychioli buddiannau staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor.

Fel undeb llafur cydnabyddedig, rydym yn:

        • amddiffyn eich buddiannau a'ch helpu i ddatrys eich problemau yn y gwaith;

        • ymgyrchu dros well ansawdd addysg ac ymchwil, cyflogau, amodau a

            phensiynau;

        • bargeinio ac ymgynghori â rheolwyr y brifysgol ar eich rhan.

Cynrychiolaeth.

Mae UCU yn bargeinio'n genedlaethol gyda chyflogwyr ar gyflog, amodau a phensiynau.

Mae UCU Bangor yn bargeinio â'r Brifysgol ar bolisïau ac amodau lleol, ac yn darparu cefnogaeth  i aelodau sydd â phroblemau.

Ymgyrchoedd.

Mae ymgyrchoedd cenedlaethol cyfredol UCU yn cynnwys:

          • Dileu cytundebau bregus

         •  Brwydro yn erbyn preifateiddio mewn addysg drydyddol

         • Mynd i'r afael â llwyth gwaith a straen

         • Wynebu her newid hinsawdd

         

Mae Eich Llais o Bwys.

Mae cryfder UCU, yn lleol ac yn genedlaethol, yn deillio o’i aelodaeth.

Mae maint a natur arbenigol UCU yn golygu bod y llywodraeth a chyflogwyr yn gwrando pan fyddwn yn cynrychioli eich barn. Po fwyaf o aelodau sydd gennym, y mwyaf o ddylanwad y gallwn ei gael. Os ydych chi eisiau llywio ein trafodaethau gyda’r cyflogwyr, yna ymunwch a’r undeb.

Dogfennaeth y Gangen.

Rheolau'r Gangen (Mai 2022)

Llawlyfr y Gangen (Chwefror 2019)

Cytundeb Cydnabod

Cytundeb Amser i ffwrdd a Chyfleusterau (Mehefin 2020)                                                                                             8/10/2024