Cymorth a Chefnogaeth
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o aelodau Pwyllgor Bangor UCU am wybodaeth gyffredinol, a gallwch ddod o hyd i gefnogaeth ddefnyddiol ar wefan genedlaethol UCU.
Mae aelodaeth o UCU hefyd yn rhoi’r hawl i chi gael y cyngor cyfrinachol a’r gwasanaethau cwnsela a ddarperir gan Gymorth Addysg, gan gynnwys llinell gymorth 24/7: 08000 562 561.
Cael gafael ar Gymorth a Chyngor
Os oes gennych chi broblemau difrifol yn y gwaith – efallai eich bod yn dioddef bwlio ac aflonyddu, yn wynebu ansicrwydd ar ddiwedd contract cyfnod penodol, yn cael eich bygwth â chamau disgyblu, neu’n dymuno gwneud cwyn – mae gennym ni dîm o weithwyr achos sy’n gallu trafod y materion gyda chi, mynychu cyfarfodydd ffurfiol, a rhoi cymorth a chyngor.
I gael trafodaeth gyfrinachol gychwynnol ac i gael gweithiwr achos personol i chi - cysylltwch ag Aimee Pritchard Robinson (Llywydd) neu Dyfrig Jones (Is-lywydd) yn y lle cyntaf.
Gallwn hefyd alw ar gyngor arbenigol a chymorth cyfreithiol os oes angen o swyddfeydd UCU Cymru a'r DU.
8/10/24