English
Ymunwch ag UCU
heddiw

Pam ymuno ag UCU?

Llais cenedlaethol i staff academaidd y brifysgol a staff academaidd-gysylltiedig.

Mae ein ffioedd undeb yn cyfrannu at waith lleol a chenedlaethol yr undeb. Yn ogystal a dylanwadu ar y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn ac Addysg Uwch trwy lobïo seneddol a’r cyfryngau cenedlaethol, UCU sydd yn bargeino ar eich rhan wrth gytuno ar gyflogau ac amodau cenedlaethol. Po fwyaf o aelodau sydd gennym, y cryfaf fydd ein llais.

Cynrychiolaeth leol ym Mhrifysgol Bangor

Mae UCU Bangor yn cynrychioli buddiannau ein holl aelodau wrth fargeinio ar faterion lleol gyda chynrychiolwyr y Brifysgol. Rydym yn gweithio'n agos gydag undebau llafur eraill y campws i wella amodau gwaith pawb yma ym Mangor.

Gwaith achos unigol

Mae UCU hefyd yn cynnig cyngor a chymorth cynhwysfawr i aelodau unigol. Nid oes angen wynebu problemau yn y gwaith ar eich pen eich hun; mae gan aelodau UCU fynediad at gyngor a chynrychiolaeth leol, gyda chymorth ychwanegol gan UCU Cymru a pencadlys UCU yn Llundain. Mae hyn yn cynnwys mynediad at y cyngor cyfreithiol gorau sydd ar gael.

Pwy all ymuno?

Gall unrhyw un sy'n gweithio fel academydd, darlithydd, hyfforddwr, ymchwilydd, gweinyddwr, rheolwr, staff cyfrifiaduron, llyfrgellydd mewn addysg bellach ac uwch yn y DU ymuno ag UCU. Fel aelod o'r TUC, nid yw UCU yn mynd ati i geisio recriwtio aelodau a ddylai gael eu cynrychioli gan undebau eraill. Ym Mangor, mae UCU yn cynrychioli staff academaidd a proffesiynol; dylai staff cymorth sydd eisiau cynrychiolaeth undeb gysylltu ag Unite neu Unsain.

Ymunwch nawr!


Y ffordd hawsaf i ymuno ag UCU yw llenwi'r ffurflen gais ar-lein. Sut bynnag y byddwch yn dewis ymuno, rhowch wybod i weinyddwr ein cangen hefyd fel y gallwn roi gwybod i chi am weithgareddau lleol yr undeb.

30/10/24